Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 29
Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhaliwyd y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd i’r Prif Weinidog ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyhoeddi'r Adolygiad Ymarfer Plant i farwolaeth Logan Mwangi
(30 munud)
4 Datganiad gan Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a'r Prif Chwip: Coffáu Cyhoeddus yng Nghymru: Canllawiau i Gyrff Cyhoeddus
(30 munud)
5 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022
(15 munud)
NDM8144 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygio Atodlen 12 a Diwygiad Canlyniadol) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Tachwedd 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
6 Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru)
(5 munud)
NDM8145 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Diogelu'r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:
a) Adran 1;
b) Adran 2;
c) Atodlen 1;
d) Adrannau 3-23;
e) Teitl Hir.
7 Rheoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022
(15 munud)
NDM8143 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynllun Morol, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cymorth Ariannol) (Cymru) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Tachwedd 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
8 Datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: Diwrnod Rhyngwladol Pobl Anabl
(30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (60 munud)
Derbyniwyd y cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i gynnal dadl ar eitemau 9 a 10 gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân.
9 Dadl ar Egwyddorion Cyffredinol Y Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
NDM8141 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru).
Gosodwyd Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) a'r Memorandwm Esboniadol gerbron y Senedd ar 7 Mehefin 2022.
Gosodwyd adroddiad Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ar Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) gerbron y Senedd ar 18 Tachwedd 2022.
Dogfennau
Ategol
Adroddiad y
Pwyllgor Cyllid
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r
Cyfansoddiad
10 Y penderfyniad ariannol mewn perthynas â’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru)
NDM8142 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd:
At ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
11 Cyfnod pleidleisio
Crynodeb o Bleidleisiau
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 30 Tachwedd 2022